Welsh Language Skills are essential for this position Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
YSGOL GLANTWYMYN Cemaes Machynlleth Powys SY20 8LX Pennaeth: Mrs Bethan Gwawr Jones BAdd (Anrh) Ffôn 01654 511394 E-bost:office@glantwymyn.powys.sch.uk Mae Ysgol Glantwymyn yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu yn hwyl i bawb ATHRO/ATHRAWES 29 awr yr wythnos Yn eisiau: ar gyfer Medi 1af 2025 – Awst 31ain 2026 Croesawir ceisiadau gan ANG Mae llywodraethwyr yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes egnïol a brwdfrydig gyda chymwysterau priodol i addysgu dosbarth yn Ysgol Glantwymyn. Dylai’r ymgeiswyr fod a’r gallu i arwain ac ysbrydoli plant i gyrraedd eu llawn botensial. Mae’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Dyma gyfle cyffrous am ddatblygiad proffesiynol ac i fod yn ynghlwm â’r ysgolion gynradd gyntaf i’w ffedereiddio ym Mhowys. Bydd gofyn i chi weithio dan gyfarwyddyd pennaeth y ffederasiwn a’r uwch dîm rheoli. Rydyn ni’n chwilio am athro/athrawes sy’n: • ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth sydd â gwybodaeth dda o addysgu a ynghyd â dealltwriaeth dda o’r Cwricwlwm i Gymru. • meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad • gweithio’n dda fel rhan o dîm • yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i’r plentyn “cyflawn” • yn barod i ddangos ymroddiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau all-gwricwlaidd Gallwn ni roi’r canlynol i chi: • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr • Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig • Amgylchedd dysgu sy’n ofalgar ac yn llawn adnoddau • Partneriaeth dda â rhanddeiliaid I drefnu ymweliad â’r ysgol, cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Bethan G Jones 01650 511394 Mae pecynnau cais ar gael gan: Y Tîm Recriwtio, Neuadd Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG, 01597 826409 neu jobapplications@powys.gov.uk Dychwelir y ffurflenni cais i’r awdurdod erbyn y diwrnod cau: Dydd Mercher 30 Ebrill 2025 (This is an advertisement for a Key Stage 2 teacher at Ysgol Glantwymyn who are part of a Ffederation of three schools, for which the ability to teach through the medium of Welsh is essential).