Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 31/03/2025
Yr Isafswm oedran Cyflogi yw 22 mlwydd oed
Am y rôl:
Mae gennym ni 5 cartref preswyl i Blant o amgylch Powys, yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Y Trallwng a ger Llanbrynmair. Rydym yn bwriadu adeiladu tîm o weithwyr wrth gefn y gallwn ddibynnu arno ar gyfer salwch neu absenoldebau eraill.
Byddwch chi’n gweithio yn ôl patrwm sifft dydd mewn Cartref Plant mewn cymuned wledig. Byddwch chi’n creu cartref diogel, iach, addysgol, a bodlon ble mae’r plant yn cael gwrandawiad a sylw i gyflawni deilliannau cadarnhaol yn eu bywydau.
Amdanoch chi:
Eich dyletswyddau:
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Victoria Ruff-Cock, Uwch Reolwr Ymyrraeth ac Atal
01686 617553, victoria.ruff-cock@powys.gov.uk
Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS gan fod y swydd yn cael ei dosbarthu fel gweithgaredd a reolir dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012, ac fe fydd yn destun archwiliad o’r rhestr o’r bobl hynny a waherddir rhag gweithio gyda phlant.