I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Plant, ewch i’r brif wefan
Prif Ddiben y Swydd
Cyflawni unrhyw waith gyda phlant a theuluoedd fel yr unig weithiwr dynodedig dan gyfarwyddyd y Rheolwr Tîm. Bydd y teulu wedi bod yn destun asesiad Gweithiwr Cymdeithasol, a bydd lefel angen y plant wedi'i bennu fel angen am gefnogaeth gyffredinol, heb risg o niwed brys. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn llunio’r cynllun ar gyfer y gwaith y bydd Gweithiwr Argyfwng Digartrefedd yn ei wneud gyda’r teulu, er mwyn ceisio datrys y sefyllfa a dod â'r achos i ben. Efallai y bydd gwaith arall i’w wneud ar gyfer teuluoedd sydd â Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig. Efallai y bydd angen gweithio oriau hyblyg min nos ac ar benwythnosau. Bydd rhan o’r swydd yn cynnwys cyfryngu â theuluoedd a phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn ogystal â phobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
I wneud y gwaith yma, bydd angen i’r Gweithiwr Argyfwng Digartrefedd weithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd a gall alw am adnoddau’r Tîm Cymorth Teulu a Chymorth Cynnar er mwyn cyflawni’r cynllun.