I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion, ewch i’r brif wefanYdych chi’n arweinydd brwd ac eiddgar sy’n deall pa mor bwysig yw cael pobl allan o’r ysbyty a nôl adref? Ydych chi’n cydnabod pwysigrwydd dull o weithio sy’n seiliedig ar gryfderau fel bod pobl yn gallu gwneud beth sy’n bwysig iddyn nhw? Fyddech chi’n gallu gweithio gydag asiantaethau partner i ddatblygu llwybrau effeithiol ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty, gan weithio gyda thimoedd asiantaeth ac aml-ddisgyblaeth?Os hynny, dyma gyfle cyffrous i chi arwain tîm trawsffiniol rhyddhau o’r ysbyty ym Mhowys. Mae’r swydd yn agored i ymgeiswyr sydd â chymhwyster proffesiynol gwaith cymdeithasol neu debyg, h.y. nyrs neu therapydd galwedigaethol.Mae Gwasanaethau Oedolion Powys wedi gwneud cynnydd sylweddol a byddwch yn ymuno â thîm brwd ac awyddus sy’n gwerthfawrogi ei weithlu, yn hyrwyddo arloesedd ac yn croesawu ffyrdd newydd o weithio er mwyn ateb yr heriau parhaus.Mae Powys yn le braf i fyw a gweithio ac mae gennym becynnau adleoli i’r rhai sydd â diddordeb mewn symud i’r ardal.Rydym yn chwilio am rywun proffesiynol sy’n frwd, yn fyfyriol ac yn greadigol i arwain y tîm hwn. Byddwch yn aelod da o dîm gyda sgiliau cyfathrebu gwych ac ymrwymiad i weithio ar y cyd ar draws y system iechyd a gofal.Os yw’r swydd yn apelio i chi a hoffech drafod y cyfle cyffrous hwn ymhellach, cysylltwch ag Adan Greenow, Uwch-reolwr Pobl Hŷn: 01874 612234