I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Plant, ewch i’r brif wefan
Yr Isafswm oedran Cyflogi yw 22 mlwydd oed
Prif Ddiben y Swydd:
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gynorthwyo’r Rheolwr Cartref Cofrestredig i gyflwyno gwasanaeth o ansawdd sy’n diwallu anghenion unigol y plant a phobl ifanc sy’n byw o fewn y ddarpariaeth breswyl.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gefnogi’r holl agweddau ar fywyd dyddiol o fewn y Cartref Gofal – Cartref Preswyl i Blant.
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio ar sail sifftiau, gan gynnwys dyletswyddau cysgu i mewn yn y cartref.