Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Rydym yn chwilio am Bennaeth /Bennaeth Dros Dro (croesewir secondiad) eithriadol ar gyfer Ysgol Bro Caereinion, sef ysgol Dwy Ffrwd Bob Oed newydd yn Llanfair Caereinion...
Oes gennych chi'r sgiliau,o naill ai’r cyfnod cynradd neu’r uwchradd, y profiad a'r brwdfrydedd i arwain a hyrwyddo’r cyfle cyffrous hwn?
Dyma gyfle unigryw i unigolyn o safon uchel sydd yn meddu ar weledigaeth ac ymrwymiad i fwrw ati â’r gwaith o sefydlu'r Ysgol Ddwy Ffrwd Bob Oed newydd, a leolir yn Llanfair Caereinion, sef tref farchnad wledig hardd, yng nghanolbarth Cymru, o fis Medi 2022 ymlaen.
Mae’r Corff Llywodraethol wedi datblygu gweledigaeth arloesol a chynhwysol ar gyfer datblygu'r iaith Gymraeg yn yr ysgol a'i chymuned. Bydd y weledigaeth ysbrydoledig hon yn cryfhau ac yn dyfnhau'r ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg ac ar yr un pryd yn gweithio gyda theuluoedd i gefnogi eu dewis o addysg cyfrwng Gymraeg. Mae'r corff llywodraethol dros dro am benodi arweinydd angerddol a all gyflawni'r weledigaeth hon ac arwain arloesedd addysgol ynghyd â ffyrdd newydd o hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Bydd angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg. Bydd ysgolion cynradd y clwstwr a phartneriaid eraill yn hanfodol wrth helpu i ddatblygu'r weledigaeth hon.
Byddwch yn unigolyn deinamig ac arloesol sydd â hanes profedig o weithredu ar lefel reolaeth uwch gyda sgiliau arwain strategol a gweithredol, sefydliadol a rhyngbersonol datblygedig. Byddwch wedi ymrwymo i gyflwyno dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl ac i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned i ddarparu amgylchedd lle mae staff a disgyblion yn cael cymorth i gyflawni eu potensial llawn.
Mae Corff Llywodraethu Dros Dro yr Ysgol Dwy Ffrwd Bob Oed newydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i bennaeth / bennaeth dros dro newydd a fydd yn:
Bydd yr Ysgol Dwy Ffrwd Bob Oed yn weithredol o 1 Medi 2022 gan ddarparu addysg o'r ddau gampws presennol yn nhref Llanfair Caereinion. Gwyliwch y fideo sy’n hyrwyddo’r ysgol drwy ddilyn y ddolen gyswllt ganlynol:
https://www.dropbox.com/s/o0hzo90hg2qi2uv/Ruth%20Advert%20Final.mp4?dl=0
Cynigir y swydd ar hyn o bryd yng Ngrŵp 5a ISR 19 – 25 gyda’r posibilrwydd o lwfansau ychwanegol, fel pecyn adleoli ac ymrwymiad i gynnig a chefnogi datblygiad proffesiynol i’r ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r pennaeth / pennaeth dros dro o ran sefydlu gweledigaeth y corff llywodraethol dros dro. Mae pecyn cais llawn ar gael sy'n rhoi rhagor o fanylion am y cyfle hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 9fed o Ionawr 2022 (21:00)
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau yr 17fed o Ionawr 2022
Peidiwch ag oedi i gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethol Dros Dro – Cynghorydd Gareth Jones - cllr.gareth.jones@powys.gov.uk am sgwrs anffurfiol.
Croesewir ymweliadau â'r ysgolion a gellir eu trefnu drwy gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethol Dros Dro – Cynghorydd Gareth Jones - cllr.gareth.jones@powys.gov.uk