Prif Ddiben y Swydd:
Diben cyffredinol y rôl Rheolwr Tîm yw sicrhau fod gwaith y tîm yn cael ei ffocysu’n gywir, o fewn fframweithiau polisi a gweithdrefnol y cyngor, ac yn gyson gyda’r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddio perthnasol o fewn eu maes gwasanaeth. Dylai’r Rheolwr Tîm sicrhau fod dull trefnus a digynnwrf tuag at y gwaith, gydag aelodau’r tîm yn gweithio’n gydweithredol i wella bywydau plant a phobl ifanc. Rôl y Rheolwr Tîm yw creu’r amodau hyn o fewn y tîm, tra’n rheoli gwaith y tîm yn weithredol.