Byddwn yn ystyried Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso
I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion, ewch i’r brif wefan
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Oedolion ag Anableddau Ledled y Sir. Hoffem glywed gennych chi os oes diddordeb gennych mewn gweithio mewn partneriaeth â phobl, eu teuluoedd, gofalwyr a chefnogwyr, ac os ydych am fod yn rhan o’r tîm blaengar, cefnogol hwn sy’n defnyddio ymagwedd seiliedig ar gryfderau i gefnogi pobl i gyflawni deilliannau cadarnhaol.
Swydd 22.2 awr yr wythnos yw hon ac er y bydd y llwyth gwaith yn bennaf o gwmpas De Powys, bydd lleoliad y gwaith yn agored i’w drafod. Mae trefniadau gwaith hyblyg ar gael, ac rydym yn hapus i gael trafodaeth anffurfiol â chi i roi rhagor o wybodaeth ac ystyried eich anghenion.
Croesawn geisiadau oddi wrth weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a’r rheini a fydd yn cymhwyso yn 2022 ac rydym yn cynnig rhaglen Gyfnerthiad ardderchog i’r sawl sydd newydd gymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol ac ar gyfer y Tair Blynedd Cyntaf Wrth Ymarfer, sy’n cynnwys Mentora. Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau oddi wrth weithwyr cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg.
Rydym yn gweithredu cynllun prydlesu car ac mae’r Cyngor yn cynnig pecyn adleoli deniadol i weithwyr cymdeithasol sydd am symud i Bowys a gweithio yno.