I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Plant, ewch i’r brif wefan
Prif Ddiben y Swydd:Un grŵp o staff o fewn y sector gofal cymdeithasol yw Gweithwyr Cymdeithasol. Yn bennaf trwy Weithwyr Cymdeithasol y bydd Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu goblygiadau statudol o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac eraill.Diben cyffredinol y swydd Gweithiwr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Plant yw asesu, asesu risg a chyflwyno gwasanaeth i blant a’u teuluoedd, gan gadw plant o fewn eu teuluoedd, lle bo hynny’n bosibl. Mewn sefyllfaoedd lle na ellir rheoli’r risg, bydd angen datblygu cynlluniau i gadw plant yn ddiogel ac i allu cyflawni eu potensial llawn. Wrth wneud hyn, rhaid i’r Gweithiwr Cymdeithasol gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, ynghyd â Pholisïau a Gweithdrefnau Cyngor Sir Powys.
Lle byddwn yn derbyn llawer iawn o geisiadau am swydd, mae’n bosibl y byddwn yn dod â’r dyddiad cau yn gynt. Byddem yn eich annog felly i anfon eich ffurflen gais wedi’i llenwi cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn cael eich siomi.