Ydych chi wrth eich bodd yn dod i adnabod pobl, treulio amser gyda nhw a gweithio fel rhan o grŵp/tîm? Ydych chi'n mwynhau gweithio yn eich cymuned leol ac yn mwynhau gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd, pa mor fychan bynnag yw’r gwahaniaeth yma?
Rydym yn chwilio am gymeriadau llawn cydymdeimlad, cynnes a chyfeillgar sydd ag agwedd hyblyg tuag at eu gwaith, sy'n dda am ddatrys problemau, yn onest ac yn ddibynadwy gydag agwedd 'gallu gwneud' i ymuno â ni yn ein rolau Ailalluogi a Gweithwyr Gofal.
Byddwch yn rhan o dîm sy'n darparu gofal a chymorth i drigolion Powys fyw'n dda mewn man o'u dewis, yn gwneud yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Rhaid i chi fod yn hunan-gymhellol, yn rhagweithiol, yn wrandäwr da, yn ddyfeisgar, yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn weithiwr tîm da.
Nid oes angen cymwysterau blaenorol ac rydym yn talu lwfans milltiroedd hael.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gan gynnwys:
Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch ddiwrnod ym mywyd Emily, un o'n Gweithwyr Gofal a Chymorth Ailalluogi