Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 30/04/2023
Prif Ddiben y Swydd:Bydd y Prif Weithiwr Cymdeithasol yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau ac arweinyddiaeth gwaith cymdeithasol lefel uwch er mwyn gwella canlyniadau i blant mewn angen a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Bydd yn dangos lefel uchel a chyson o allu a hyder yn yr ystod lawn o dasgau gwaith cymdeithasol gyda phlant a’u teuluoedd, yn arbennig o ran amddiffyn plant, achosion llys, gwaith yn gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal, a gweithio mewn partneriaeth.Bydd y Rheolwr Tim Cynorthwyol yn modelu gwerthoedd gwaith cymdeithasol craidd, arfer gorau ac ymrwymiad cryf at welliant parhaus. Sefydlu Arwyddion Diogelwch fel y model o ymarfer Gwaith Cymdeithasol.Yn rheolwr atebol ar gyfer ystod o weithwyr o fewn y gwasanaeth. Yn darparu mentora a hyfforddiant i aelodau eraill o’r tim a darparu addysgu o ymarfer achrededig i weithwyr cymdeithasol sy’n fyfyrwyr yn cynnwys achosion cymhleth a heriol. Gallai hyn gynnwys gweithio ar y cyd.Bydd disgwyl i’r Rheolwr Tim Cynorthwyol gyrraedd safonau ymarfer uchel a chwrdd â thargedau perfformiad o fewn eu llwyth gwaith a’r rheiny o’r staff y byddant yn eu goruchwylio. Byddant yn cyfrannu at ddiwylliant dysgu’r tîm trwy rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda chydweithwyr. Dirprwyo ar gyfer ei Reolwr a chynrychioli’r tîm mewn gweithgorau a sefydlwyd i godi ansawdd yr ymarfer a gwella effeithiolrwydd y gwasanaeth.Cynorthwyo’r Rheolwr wrth ddarparu cymorth a goruchwyliaeth aelodau penodol eraill o’r tîm a bod yn atebol am eu gwaith.
I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Plant, ewch i’r brif wefan