I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion, ewch i’r brif wefan
Prif Ddiben y Swydd:
Bydd y Gweithiwr Cymorth yn cael ei gyflogi i adsefydlu oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl o fewn y gymuned.
Bydd disgwyl i’r Gweithiwr Cymorth i roi cyngor a chymorth i bobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl a’u helpu i ddatblygu sgiliau personol, galwedigaethol a bywyd. Bydd y Gweithiwr Cymorth yn derbyn hyfforddiant perthnasol i wneud y tasgau hyn.
Dylai’r trefniadau ar gyfer oriau gwaith fod yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion penodol pob defnyddiwr. Felly bydd Gweithwyr Cymorth yn gweithio 9.00am – 5.00 pm ac weithiau ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau a bydd tâl uwch priodol yn cael ei roi am hyn.