Prif Ddiben y Swydd:
Sicrhau bod gwasanaeth dyletswydd argyfwng effeithiol yn cael ei drefnu a’i gyflwyno tu allan i oriau arferol ym Mhowys. Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth generig ar gyfer y sir gyfan. Bydd gofyn i’r Cydlynydd ddarparu lefel uwch o sgiliau gwaith cymdeithasol ac arbenigedd mewn gwasanaethau i oedolion, Gwasanaethau Plant a Gwasanaeth Gofal yn y Cartref ac Ailalluogi Mewnol. Hefyd, bydd angen i’r cydlynwyr i gyflenwi ar fyr rybudd am absenoldeb cydweithwyr ar y rota y Tîm Dyletswydd Argyfwng.
Lle byddwn yn derbyn llawer iawn o geisiadau am swydd, mae’n bosibl y byddwn yn dod â’r dyddiad cau yn gynt. Byddem yn eich annog felly i anfon eich ffurflen gais wedi’i llenwi cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn cael eich siomi.