I ddarganfod rhagor am weithio mewn Gwasanaethau Oedolion ewch i’n prif wefan.
Byddwch yn derbyn £3000 o gydnabyddiaeth y flwyddyn, mewn rhandaliadau misol, am y gwaith AMHP a gyflawnwchMae Gofal Cymdeithasol i Oedolion am benodi Gweithwyr Cymdeithasol (gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy) i ymuno â’r timoedd iechyd meddwl cymunedol ar draws Powys. Byddai ceisiadau gan unigolion sydd wedi, neu’n gweithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl, a’r rhai sy’n weithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, yn ateb galw amrywiol y gwasanaeth. Bydd gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy sy’n gweithio ar y rota yn ystod y dydd yn derbyn £1500 yn ychwanegol i ateb anghenion statudol y cyngor o ran asesiadau Deddf Iechyd Meddwl. Mae staff y timoedd iechyd meddwl yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd.Mae Powys yn cynnig hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd am ddatblygiad personol. Mae ganddo wasanaeth gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymradwy sy’n gefnogol, gyda mynediad at gyngor cyfreithiol a chymorth cyd-weithwyr. Mae gennym strwythur o reolwyr llinell sy’n eich helpu chi i fod y gorau y gallwch. Mae’r cyngor hefyd yn cynnig pecyn adleoli hael, yn dibynnu ar rai amodau. Mae hwn ar gael ar gais.
Lle byddwn yn derbyn llawer iawn o geisiadau am swydd, mae’n bosibl y byddwn yn dod â’r dyddiad cau yn gynt. Byddem yn eich annog felly i anfon eich ffurflen gais wedi’i llenwi cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn cael eich siomi.