Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
CYNGOR SIR POWYS
PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO.
PENODI AELODAU ANNIBYNNOL
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Aelodau Annibynnol ymuno â Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Sir Powys o fis Mai 2022.
A allech chi gynnig llais cryf ac annibynnol am faterion ariannol eich awdurdod lleol? Oes diddordeb gennych mewn llywodraeth leol ac a ydych am chwarae rôl o ran gwella’r modd y caiff ei weithredu?
Mae cylch gwaith Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor yn cynnwys lefel uchel o arolygu fframwaith y Cyngor ar gyfer llywodraethu, cyllid, rheoli trysorlys, rheoli risg, rheoli mewnol, asesiadau perfformiad a gweithdrefnau cwyno. Er mwyn cyflawni’r cylch gwaith hwn, mae’r pwyllgor yn procio ac yn ceisio cael sicrwydd oddi wrth amrywiaeth o uwch swyddogion ac yn arolygu gwaith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor, gan roi cyfrif amdano.
O fis Mai 2022 bydd y Pwyllgor yn cynnwys naw aelod. Bydd chwech ohonynt yn Gynghorwyr ynghyd â thri Aelod Annibynnol a benodir o’r tu allan i’r Cyngor. Caiff y Pwyllgor ei arwain gan un o’r Aelodau Annibynnol a fydd yn Cadeirio’r Pwyllgor.
Dylai pob ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau proffesiynol ac ymarferol cadarn, dylai fod yn ymholgar ac ag annibyniaeth barn, a dylai fod yn gallu cynorthwyo â gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio drwy ei holl wybodaeth bersonol a’i brofiad yn y meysydd sy’n berthnasol i’w rôl.
Ceir rhagor o fanylion yn y disgrifiad rôl, ac ym manyleb y person ynghylch y sgiliau a’r profiad y byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus eu cael.
Ymhlith dyletswyddau’r Aelod Annibynnol byddai presenoldeb yn y chwe chyfarfod cyhoeddus a raglennir bob blwyddyn a phresenoldeb ar Weithgorau ble y bo’n ofynnol a digwyddiadau hyfforddiant a datblygiad gorfodol. Ceir tâl cydnabyddiaeth i’r penodiad yn unol â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel a ganlyn:
Aelod Annibynnol
Aelod Annibynnol sy’n Cadeirio’r Pwyllgor
Hyd at 4 awr o Weithgareddau
£105 y dydd
£134 y dydd
£210 y dydd
£268 y dydd
Gellir hawlio tâl am fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, teithio, amser paratoi a bod yn bresennol mewn hyfforddiant.
Bydd y penodiad i’r swydd am gyfnod o 5 mlynedd i ddechrau, gyda’r posibilrwydd o ailbenodiad am gyfnod pellach o 5 mlynedd.
Er mwyn cymhwyso, dylai ymgeiswyr:
Wrth wneud y penodiad bydd y Cyngor yn ystyried annibyniaeth wleidyddol yr ymgeiswyr.
Os ydych yn credu eich bod chi’n bodloni’r gofynion uchod a bod diddordeb gennych mewn dyfod yn aelod lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ond yr hoffech drafod y rôl yn anffurfiol, yna cysylltwch:
Jane Thomas,
Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151,
Cyngor Sir Powys,
Neuadd y Sir,
Llandrindod.
Powys. LD1 6DN
Ffôn: 01597-826729
E-bost: ria.claridge@powys.gov.uk
Gellir lawrlwytho ffurflen gais oddi wrth wefan y Cyngor neu cysylltwch:
Lisa Richards, Swyddog Craffu.
Ffôn: 01597-826371
E-bost: lisa.richards@powys.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 8 Rhagfyr, 2021.
Yn sgil amgylchiadau cyfredol COVID -19 caiff proses gyfweld y rôl hon ei chynnal yn rhithiol gan ddefnyddio’r llwyfan ar-lein priodol. Os oes unrhyw bryderon gennych ynghylch eich gallu i gyfranogi yn y broses gyfweld rithiol, cysylltwch â Lisa Richards (manylion uchod).
Cynhelir y cyfweliad ar 12 neu 13 Ionawr, 2022.
I ymgeisio Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i llenwi ILisa Richards, Swyddog Craffu - lisa.richards@powys.gov.uk