Prif Ddiben y Swydd:
Mae Uwch Weithwyr Cymdeithasol yn un grŵp o staff o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae rhwymedigaethau statudol yr Awdurdodau Lleol yn cael eu diwallu’n bennaf trwy Weithwyr Cymdeithasol o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac eraill.
Diben cyffredinol y rôl Uwch Weithiwr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Plant yw asesu, asesu risg a darparu gwasanaeth i blant a’u teuluoedd a lle’n bosibl cynnal plant o fewn eu teuluoedd. Mewn sefyllfaoedd lle na ellir rheoli’r risg, datblygu cynlluniau sy’n cadw plant yn ddiogel a’u galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid i’r Gweithiwr Cymdeithasol dilyn y rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol, yn ogystal â Pholisïau a Gweithdrefnau Cyngor Sir Powys.