Eich cyfrifoldebau:
Mae’r Tîm Cymorth Cynnar yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o’u genedigaeth hyd at 18 oed. Bydd y swydd hon yn cynnwys gwaith gyda phobl ifanc 11-18 oed a fydd yn dilyn ymagwedd at deulu cyfan.
Gweithio’n holistig gyda phobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn darparu amrywiaeth o gymorth a help iddyn nhw er mwyn cyflawni eu nodau teuluol.
Bydd y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd; Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) yn cynorthwyo i sicrhau fod yr Awdurdod Lleol yn bodloni eu goblygiadau statudol o dan ddeddfwriaeth gyfredol a bydd gwybodaeth/ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau gan ddeiliad y swydd mewn perthynas â diogelu’r fframwaith statudol yng Nghymru.